Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Gwener, 16 Gorffennaf 2021
Amser:
09.30 -
10.54
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12376
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Joel James AS Buffy Williams AS |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Cylch gwaith y Pwyllgor
Nododd yr Aelodau gylch gwaith a chyfrifoldebau'r Pwyllgor.
3 Deisebau newydd
Yn unol â'r arfer a fabwysiadwyd gan Bwyllgorau Deisebau blaenorol, cytunodd y Pwyllgor y gwneir cais am ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru, neu sefydliad perthnasol arall, cyn ei drafodaeth gyntaf o ddeisebau newydd yn y dyfodol.
3.1 P-06-1158 Llywodraeth Cymru i benodi Gweinidog anabledd pwrpasol o fewn tymor nesaf y Llywodraeth
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ymateb i’r materion a godir yn y ddeiseb.
3.2 P-06-1159 Gwahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau anifeiliaid unwaith ac am byth yng Nghymru
Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Cefnogodd yr achos hwn yn ystod ei ymgyrch etholiadol.
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC).
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog perthnasol i ofyn am ymateb i’r materion a godir yn y ddeiseb ac amserlen ar gyfer y gwaharddiad arfaethedig.
3.3 P-06-1160 Ei gwneud yn ofynnol i ganolfannau arholiadau lleol yng Nghymru dderbyn myfyrwyr sy'n cael addysg yn y cartref ar gyfer arholiadau cyhoeddus
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ofyn am ymateb i’r ddeiseb.
3.4 P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y Comisiynydd Plant i gael ei hymateb i'r ddeiseb.
3.5 P-06-1162 Rhannu Sir Rhondda Cynon Taf ac uno Cwm Cynon â Sir Merthyr
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n Gynghorydd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd, gan nad oedd llawer o gamau y gallai eu cymryd ar y mater a godwyd, i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
3.6 P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru
Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n beiriannydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:
· Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i ofyn am ymateb i'r mater a godir gan y ddeiseb; a’r
· Ganolfan Technolegau Amgen yn gofyn a yw wedi ceisio cael ei dynodi'n Sefydliad Addysg Uwch gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cwrs hwn a chyrsiau eraill, neu a yw’n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol.
3.7 P-06-1164 Gwneud bwlio ac aflonyddu mewn ysgolion yn drosedd pan fydd plant wedi cyrraedd yr oedran cyfrifoldeb troseddol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ofyn am ei ymateb i’r mater a godir yn y ddeiseb.
3.8 P-06-1165 Dylid gwahardd gwerthu ac yfed alcohol yn y Senedd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gomisiwn y Senedd o gofio mai mater i'r Comisiwn yw rheoli ystâd y Senedd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd nad oedd llawer o gamau y gallai eu cymryd ar y ddeiseb o gofio ei gylch gwaith, a chytunodd, felly, i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi’r mater.
3.9 P-06-1166 Darparu grantiau di-dreth i bobl sy'n gweithio yn y celfyddydau a darparu cyllid grant i leoliadau celfyddydol.
Datganodd Buffy Williams AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod y deisebydd.
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i ofyn am ymateb i’r materion a godir yn y ddeiseb.
3.10P-06-1167 Cefnogwch fusnesau teithio a thwristiaeth Cymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i ofyn am ymateb i’r materion a godir.
3.11P-06-1168 Ystyriwch ail-wneud y flwyddyn academaidd gyfredol hon ar gyfer myfyrwyr ar draws Cymru
Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n llywodraethwr ysgol.
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n llywodraethwr ysgol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynigion yn flaenorol i ddisgyblion ailadrodd y flwyddyn ysgol a'r cynllun adfer amgen y mae wedi'i gyhoeddi cytunodd y Pwyllgor i:
· ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y materion a godir yn y ddeiseb; ac
· unwaith y daw ymateb gan y Gweinidog, cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
3.12P-06-1169 Gadewch i ddinasyddion Cymru bleidleisio ar gyfyngiadau symud
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd nad oedd llawer o gamau y gallai eu cymryd ar y materion a godir yn y ddeiseb. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
3.13P-06-1170 Adolygiad annibynnol di-oed o'r broses ddethol Haen 1 a Haen 2 yn Uwch-gynghrair Menywod Cymru
Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n gyd-gyflwynydd ar ddatganiad barn perthnasol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ofyn am eu barn ar y materion a godir yn y ddeiseb.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-05-914 Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer yr Anabl
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a'r gwaith a wnaed gan y Pwyllgor blaenorol a chytunodd i lunio adroddiad byr ar y materion a godir yn y ddeiseb.
4.2 P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â'r hyn a geir yng ngweddill y DU
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a chytunodd fod y ddeiseb wedi cyflawni ei nod o sicrhau bod technoleg prosthetig yn gyfartal â'r hyn sydd ar gael o fewn GIG Lloegr a'r Alban. Cytunodd felly i gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebydd ar y canlyniad cadarnhaol a gafwyd.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i lunio astudiaeth achos i ddangos sut y gall deisebau wneud gwahaniaeth.
4.3 P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid!
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd, a nododd fod y ddeiseb wedi'i thrafod yn y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ddiwethaf a chytunodd i ddiolch i'r deisebydd am godi'r mater ac i rannu atgrynhoad o'r ddadl gyda'r deisebydd. Roedd yr Aelodau'n cofio ymgyrchoedd cryf dros fynediad 24 awr at wasanaeth Iechyd Meddwl yn ystod ymgyrch yr etholiad – a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y mater cysylltiedig hwnnw.
4.4 P-05-1147 Dylid ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol ddarparu addysg fyw/addysg wedi'i recordio bob dydd i bob disgybl nad yw'n dychwelyd i'r ysgol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a nododd fod y Gweinidog ar y pryd wedi datgan yn glir mai mater i'r ysgol a'r awdurdod lleol yw penderfyniadau ynghylch gwersi byw neu wersi wedi’u recordio. O ganlyniad, nid oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd. Cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r mater ac awgrymu eu bod yn cysylltu â'u hysgol neu awdurdod lleol yn uniongyrchol os oeddent yn dymuno bwrw ymlaen â'r mater.
4.5 P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a daeth i'r casgliad, gyda gofid, nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar y mater ac felly cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
4.6 P-05-1092 Peidiwch â gohirio etholiadau mis Mai 2021
Gan fod yr amserlen a nodir yn y ddeiseb wedi pasio, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
4.7 P-05-1150 Rhowch wyliau ardrethi busnes i safleoedd cartrefi gwyliau yng Nghymru, fel yn Lloegr
Gan fod y camau yr oedd y ddeiseb yn galw amdanynt yn cael eu rhoi ar waith, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
4.8 P-05-1151 Dylid pennu dyddiad ar gyfer ailddechrau gweithgareddau wedi'u trefnu ar gyfer babanod a phlant bach
Gan fod y camau yr oedd y ddeiseb yn galw amdanynt yn cael eu rhoi ar waith, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
4.9 P-05-1154 Dylid ailagor y sector lletygarwch yng Nghymru erbyn 12 Ebrill 2021
Gan fod y camau yr oedd y ddeiseb yn galw amdanynt yn cael eu rhoi ar waith, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
4.10P-05-1156 Dylid cyfateb y cyllid ar gyfer busnesau bach yn ystod y cyfyngiadau symud gyda Lloegr - gan gynnwys y grant ailgychwyn
Gan fod y camau yr oedd y ddeiseb yn galw amdanynt yn cael eu rhoi ar waith, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
4.11P-05-1157 Caniatáu i ysgolion asesu myfyrwyr fel y maent yn gweld yn addas, gan gynnwys defnyddio asesiadau llyfr agored
Gan fod yr amserlen a nodir yn y ddeiseb wedi pasio, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Adroddiad gwaddol Fforwm y Cadeiryddion blaenorol
Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.
5.2 Adroddiad gwaddol y pwyllgor a oedd yn rhagflaenu
Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.
5.3 P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
5.4 P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)
Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi datgan ei gefnogaeth i'r llwybr.
Nododd y Pwyllgor y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy'n cadarnhau y bydd adolygiad o'r llwybr yn cael ei gynnal. O ystyried argymhelliad y Pwyllgor i gynnal adolygiad cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 7 ac eitem 8 o’r cyfarfod.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Gweithdrefnau pwyllgorau a'u ffyrdd o weithio
Trafododd y Pwyllgor ei weithdrefnau a'i ffyrdd o weithio a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i'w hysbysu o'i benderfyniad i gadw’r trothwyon presennol:
· gofyn am 50 o lofnodion er mwyn i'r Pwyllgor ystyried y ddeiseb; a
· gofyn am 10,000 o lofnodion cyn i'r Pwyllgor ystyried gwneud cais am ddadl ar y ddeiseb yn y Senedd.
Cytunodd y Pwyllgor i adolygu'r trothwyon hyn maes o law er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n briodol.
8 Dull gweithredu strategol o ran cylch gwaith y Pwyllgor
Trafododd y Pwyllgor sut roedd am ymdrin â’i ddull gweithredu a chytunodd ar y canlynol:
· canolbwyntio ar faterion lefel uchel lle y gallai'r Pwyllgor gynorthwyo i lunio polisi'r Llywodraeth; ac
· ymgymryd â gwaith allgymorth ac ymgysylltu pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.